Mae’r heddlu wedi colli golwg ar bron i 500 o droseddwyr rhyw yng ngwledydd Prydain, yn ôl adroddiad.

Mae’r rhai sydd ‘ar goll’ yn cynnwys treiswyr a phedoffiliaid, yn ogystal â rhai a ddiflannodd fwy na degawd yn ôl, yn ôl ymchwiliad Sky News.

Mae ffigurau a ryddhawyd gan 41 o heddluoedd yn dangos nad ydi’r awdurdodau yn gwybod lle mae 485 o droseddwyr rhyw a gafwyd yn euog ac y mae eu henwau ar y gofrestr o drosedwyr rhyw, yn byw.

Mae’r ffigwr wedi cynyddu o fwy na 20% yn ystod y tair blynedd diwethaf.

Dydi Heddlu’r Me lt yn Llundain ddim yn gwybod lle mae 227 o droseddwyr rhyw cofrestredig, ac mae’r rheiny’n cynnwys 38 sydd wedi bod ar goll ers o leiaf wyth mlynedd.

Daw’r ffigurau wrth i rai o ddioddefwyr y treisiwr tacsi du, John Worboys, ymgyrchu i wrthdroi’r penderfyniad i’w ryddhau o’r carchar.