Mae disgwyl i ddyn ymddangos gerbron y llys heddiw (Mawrth 19) mewn cysylltiad â digwyddiad yn Llundain dros y penwythnos lle cafodd car ei yrru i mewn i glwb nos.

 

Yn ôl heddlu Swydd Caint, fe fydd Mohamed Abdul, 21 oed, o Stryd McMillan yn Llundain, yn ymddangos o flaen Llys Ynadon Medway yn Chatham, a hynny ar amheuaeth o geisio llofruddio.

 

Fe gafodd yr heddlu eu galw i glwb nos yn Gravesend toc wedi hanner nos ddydd Sadwrn, ar ôl i gar Suzuki Vitara gael ei yrru i mewn iddo.

 

Cafodd Mohamed Abdul ei arestio yn y fan a’r lle, ac fe gafodd o leiaf 13 o bobl eu hanafu yn dilyn y digwyddiad, er na chafodd unrhyw un eu hanafu’n ddifrifol.

 

Mae’r heddlu hefyd wedi cadarnhau nad ydyn nhw’n trin y digwyddiad fel ymosodiad brawychol.