Fe fydd Boris Johnson yn diweddaru aelodau eraill yr Undeb Ewropeaidd ynglŷn â’r datblygiadau yn yr ymosodiad yn Salisbury yn ystod cyfarfod ym Mrwsel ddydd Llun.

Fe fydd yr Ysgrifennydd Tramor wedyn yn cynnal trafodaethau gydag Ysgrifennydd Cyffredinol Nato, Jens Stoltenberg.

Mae Boris Johnson wedi cyhuddo Rwsia o greu a storio’r sylwedd nerfol Novichok ers degawd sy’n groes i reolau rhyngwladol.

Mae Cyngor Materion Tramor yr Undeb Ewropeaidd wedi cyhoeddi eu bod yn llwyr gefnogol i’r Deyrnas Unedig ynglyn a’r mater.

Mae disgwyl i arbenigwyr o’r Sefydliad er mwyn Atal Arfau Cemegol (OPCW) gyrraedd y Deyrnas Unedig ddydd Llun i gynnal profion ar y sylwedd nerfol ond fe allai’r profion gymryd o leia’ bythefnos.

Yn y cyfamser mae Arlywydd Rwsia, Vladimir Putin wedi wfftio honiadau bod Rwsia wedi bod yn gysylltiedig â’r ymosodiad ar y cyn-ysbïwr,  Sergei Skripal a’i ferch, Yulia. Maen nhw’n parhau mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty.

Mae Llysgennad Rwsia i’r Undeb Ewropeaidd Vladimir Chizhov, wedi awgrymu bod y Novichok wedi dod o labordai Porton Down sydd tua wyth milltir o Salisbury.