Mae Ysgrifennydd Tramor San Steffan, Boris Johnson wedi beirniadu ymateb Rwsia yn sgil gwenwyno dau o bobol yn Salisbury ar Fawrth 4.

Mae Rwsia wedi gwahardd 23 o ddiplomyddion Prydeinig ac wedi cau llysgenhadaeth Prydain yn St. Petersburg.

Daw’r ymateb bythefnos ar ôl i’r cyn-ysbïwr Sergei Skripal, 66, a’i ferch Yulia, 33, gael eu gwenwyno. Cafodd y Ditectif Sarjant Nick Bailey ei daro’n wael wrth ymateb i’r digwyddiad, ond dydy e ddim bellach mewn cyflwr difrifol.

Cafodd y tri eu gwenwyno gan y nwy nerfol Novichok.

Mae llysgennad Rwsia i’r Deyrnas Unedig wedi rhybuddio bod y ffrae yn deillio o’r digwyddiad mewn perygl o gynyddu’n “beryglus” a bod gan Rwsia bob hawl i gyflwyno rhagor o gamau i ddial pe baen nhw’n wynebu rhagor o sancsiynau.

Dywedodd Boris Johnson yn y Sun on Sunday: “Fydd y camau diwerth hyn ddim ond yn cosbi Rwsiaid cyffredin drwy eu hamddifadu nhw o’r cyfleoedd diniwed i ddysgu Saesneg a gwneud cais am fisas y DU.

“Heddiw, mae Rwsia’n sefyll ar ei phen ei hun ac wedi’i hynysu. Mae’r ffaith honno’n dangos y gwahaniaeth mwyf arwyddocaol rhwng Prydain a Putin: mae gennym ni ffrindiau ledled y byd, does ganddo fe ddim.”

Beirniadu Llafur

Dywedodd Boris Johnson fod ymateb Llywodraeth Prydain, y Senedd a Phrydain yn gyffredinol yn “galonogol iawn”, ond mae e wedi beirniadu Jeremy Corbyn.

Mae arweinydd y Blaid Lafur dan y lach am fethu â chynnig cefnogaeth i ddulliau’r Prif Weinidog Theresa May ddydd Mercher.

Dywedodd Boris Johnson: “Mae e wedi siomi ei blaid a’r wlad drwy ymddangos fel pe bai’n cynorthwyo ymdrechion propaganda Rwsia drwy amau’r hyn sy’n amlwg i unrhyw un sy’n edrych i mewn yn wrthrychol.”

Mae disgwyl i Gyngor Diogelwch Cenedlaethol San Steffan gyfarfod yr wythnos nesaf.

Ond mae llysgennad Rwsia, Alexander Yakovenko wedi cyhuddo Theresa May o ddefnyddio’r argyfwng diplomyddol i wella’i delwedd.