Roedd drysau fflatiau yn Nhŵr Grenfell dim ond yn gallu gwrthsefyll y tân am hanner yr amser roedden nhw fod, yn ôl ymchwilwyr.

Fe wnaeth arbenigwyr ar ran Heddlu Llundain brofi drws ffrynt heb ei ddifrodi o’r bloc o fflatiau a chanfod mai dim ond am 15 munud roedd yn gallu dal y tân yn ôl.

Cafodd y drysau eu cynllunio i wrthsefyll fflamau am 30 munud.

Bu farw 71 o bobol yn tân yn y tŵr yng ngorllewin Llundain ar Fehefin 14 y llynedd.

Mae Scotland Yard wedi cadarnhau bod ymchwiliad yr heddlu i achosion y tân yn parhau.

“Mae Gwasanaeth Heddlu Llundain yn cynnal ymchwiliad cynhwysfawr i’r hyn ddigwyddodd yn Nhŵr Grenfell ym mis Mehefin y llynedd,” meddai mewn datganiad.

Dywed nad ydyn nhw’n gallu dweud eto os bydd canlyniadau’r profion maen nhw’n cynnal yn effeithio ar yr ymchwiliad troseddol.