Mae perchennog cath a gafodd ei lladd gan gi hela yn Sir Amwythig yn dweud ei bod hi’n teimlo “dan fygythiad”.

Yn ôl neges gan Helen Keyzor o bentref Norbury, ddwy filltir a hanner o’r ffin â Chymru, roedd ei chath Rosie, oedd yn bymtheg oed, yn yr ardd pan ruthrodd ci i mewn ac ymosod arni.

“Doedd ganddi ddim gobaith,” meddai. “Roedd hi gyda ni er pan oedd hi’n gath fach 15 mlynedd yn ôl a doedden ni ddim yn disgwyl iddi farw mewn ffordd mor ofnadwy.”

Dywedodd fod ci arall wedi bod yn crwydro yn yr ardal am fwy na phum awr.

“Dw i wastad wedi gwrthwynebu hela ac yn teimlo dan fygythiad o ganlyniad i’r helwyr gyda haid o gŵn gan eu bod nhw’n rhuthro drwy ein pentref a chefn gwlad, a phan dw i wedi mynd atyn nhw, dw i wedi eu cael nhw’n drahaus a haerllug.

“Mae’n destun gofid y gallan nhw adael ci hela heb sylweddoli ei fod ar goll.”

Mae’r neges yn gorffen drwy ddweud ei bod “yn dorcalonnus ac yn grac iawn”, ac mae wedi’i rhannu 2,600 o weithiau, a thros 100 o sylwadau wedi’u postio.