Mae Theresa May wedi ymateb i ymosodiad ar gyn-ysbïwr yn Salisbury (Caersallog), trwy gyhoeddi y bydd 23 o ddiplomyddion Rwsia yn cael eu diarddel o wledydd Prydain.

Yn ogystal, mi fydd gweinidogion a theulu brenhinol y Deyrnas Unedig yn gwrthod cymryd rhan yng Nghwpan y Byd tros yr haf – digwyddiad sy’n cael ei gynnal gan Rwsia.

Mae’r Prif Weinidog yn honni mai ysbiwyr yw pob un o’r unigolion, ac yn dweud bod ganddyn nhw wythnos i adael. Dyw gwledydd Prydain ddim wedi diarddel cymaint, ers 30 blynedd.

Deunydd o Rwsia cafodd ei ddefnyddio i wenwyno’r cyn-ysbïwr Sergei Skripal a’i ferch Yulia, ac yn ôl Theresa May mae’r Kremlin wedi methu â chynnig esboniad “credadwy” am hynny.

Casgliad

“Yr unig gasgliad gallwn gyrraedd yw bod y wladwriaeth Rwsiaidd wedi cyfrannu at yr ymgais i ladd Mr Skripal a’i ferch,” meddai Theresa May. “Ac at fygwth bywydau dinasyddion Prydeinig.”

“Defnydd anghyfreithlon o rym yw hyn gan y wladwriaeth Rwsiaidd yn erbyn y Deyrnas Unedig.”

Mae llysgenhadaeth Rwsia yn Llundain, wedi ymateb trwy ddweud bod y cam i ddiarddel yn “annerbyniol a does dim modd ei gyfiawnhau.”