Fe fydd holl siopau Toys R Us yn cau ar ôl methu â dod o hyd i brynwr newydd.

Fe fu’r cwmni yn nwylo’r gweinyddwyr yn ddiweddar.

Mae’r cyhoeddiad yn golygu y bydd 3,000 o swyddi’n cael eu colli, ac y bydd yr holl siopau wedi’u cau’n gyfangwbl ymhen chwe wythnos.

Mae gan y cwmni siopau yn Abertawe a Chaerdydd, ac yng Nghaer.

Mae disgwyl cyhoeddiad pellach yn ddiweddarach heddiw.