Fe fydd Theresa May yn cyfarfod â gweinidogion a swyddogion cudd-wybodaeth ddydd Mercher, er mwyn trafod y datblygiadau yn achos gwenwyno Salisbury (Caersallog).

Roedd y Prif Weinidog wedi galw ar Rwsia i gynnig esboniad erbyn canol nos ddydd Mawrth, ar ôl iddo ddod i’r amlwg mai cemegyn o’r wlad cafodd ei ddefnyddio yn yr ymosodiad.

Ond, bellach mae Mosgow wedi datgan y byddan nhw’n anwybyddu’r galw tan y bydd gwledydd Prydain yn anfon samplau o’r gwenwyn atyn nhw.

Mae’r pâr a gafodd eu gwenwyno, y cyn-ysbïwr Rwsiaidd, Sergei Skripal, a’i ferch Yulia, yn parhau i fod mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty.

Camau nesaf

Mae Theresa May wedi bygwth ymateb trwy “ystod lawn” o gamau, ac mae’n debyg bod yr ymosodiad seibr ymysg yr opsiynau sy’n cael eu hystyried.

Mewn cyfres o negeseuon ar Twitter, mae llysgenhadaeth Rwsia wedi bygwth ymateb i unrhyw gamau gan Brydain, a’n galw’r achos yn “ymgais slei i bardduo” enw’u gwlad.

Tra bod y ffrae ddiplomyddol yn parhau tros achos Salilsbury, mae heddlu gwrth-frawychol wedi dechrau ymchwiliad i Rwsiad alltud a fu farw yn Llundain ddydd Llun (Mawrth 14).

Mae Scotland Yard yn dweud “nad oes cysylltiad â’r digwyddiad yn Salisbury.”