Mae’r Athro Stephen Hawking, un o wyddonwyr enwocaf maes ffiseg, wedi marw yn 76 oed.

Yn ystod ei oes, llwyddodd i chwyldroi dealltwriaeth dynoliaeth o brif theorïau ffiseg, gan daflu goleuni ar ryfeddodau’r bydysawd.

Yn enedigol o Rydychen, bu farw yn ei gartref yng Nghaergrawnt yn ystod oriau mân y bore ddydd Mercher (Mawrth 14).

“Roedd e’n wyddonydd arbennig ac yn ddyn anhygoel, ac mi fydd ei waith a’i ddylanwad yn parhau am flynyddoedd i ddod,” meddai ei deulu mewn datganiad.

“Gwnaeth ei ddewrder, ei awydd i ddyfalbarhau, a’i hiwmor ysbrydoli pobol ledled y byd.

“Byddwn weld ei eisiau am byth.”

Ei fywyd

Cafodd Stephen Hawking ei eni ar Ionawr 8, 1942, yr hynaf o bedwar o blant.

Tra yn ei ugeiniau derbyniodd ddiagnosis o glefyd niwronau motor, a threuliodd gweddill ei fywyd mewn cadair olwyn ac yn cyfathrebu trwy ddyfais gyfrifiadurol.  

Er gwaetha’r cyflwr, fe ddaliodd ati i deithio’r hyd yn darlithio, gan ysgrifennu am rymoedd y bydysawd.

Ef oedd awdur y llyfr A Brief History of Time, a werthodd filiynau o gopïau.