Mae angen gwneud mwy i “wella gofal” mewn ysbytai i gleifion sydd â chlefyd y siwgwr, yn ôl un elusen.

Daw’r sylw gan Diabetes UK yn sgil adroddiad sydd wedi bod yn edrych ar y gofal y mae cleifion â chlefyd y siwgr yn ei dderbyn mewn ysbytai yng Nghymru a Lloegr.

Yn ôl yr adroddiad, mae 18% o welyau mewn ysbytai yn cael eu llenwi gan rywun sydd â’r clefyd.

Ond yn ôl ffigyrau gan Archwiliad Diabetes Cleifion Cenedlaethol, roedd bron i draean o gleifion (31%) wedi gorfod dioddef camgymeriadau meddygol yn ystod eu harhosiad yn yr ysbyty – er bod hyn wedi lleihau ers y flwyddyn gynt.

Fe ddioddefodd 18% wedyn o’r cyflwr Hypoglycemia, sy’n digwydd pan fo lefelau siwgr person yn isel iawn.

Ymhlith y cleifion hynny gyda chlefyd y siwgr math 1 wedyn, roedd un allan o bob 25 (4%) wedi dioddef o Ketoacidosis – cyflwr difrifol a all achosi niwed i fywyd.

Gwelliannau

Ond er gwaetha’r ffigyrau negyddol hyn, mae’r adroddiad hefyd yn dangos bod pethau wedi gwella mewn rhai meysydd.

Er enghraifft, ers 2010 mae’r nifer o bobol sydd wedi dioddef o hypoglycemic wedi gostwng 30%; y nifer o wlser y troed yn ystod arhosiad claf mewn ysbyty wedi gostwng 40%, ac mae’r nifer o gamgymeriadau meddygol hefyd wedi lleihau.

“Gwella gofal”

Yn ôl David Jones, dirprwy gyfarwyddwr yr adran gwella cefnogaeth ac arloesedd yn Diabetes UK, mae’n “hanfodol” bod pobol sydd â chlefyd y siwgwr yn teimlo’n “ddiogel” mewn ysbytai.

“Rydym ni wedi siarad â nifer o bobol sydd ddim [yn teimlo’n ddiogel],” meddai, “ac mae’r ffigyrau hyn yn dangos bod yna dal gwaith i’w wneud i wella diogelwch.

“Mae angen i ni wneud mwy i helpu timoedd diabetes i gynorthwyo eu cydweithwyr i ddarparu gofal diogel ac addas.”