Mae’r Ysgrifennydd Diwylliant yn San Steffan, Matt Hancock, yn “hyderus” y bydd adolygiad newydd yn cynnig atebion i helpu’r wasg yng ngwledydd Prydain.

Fe fydd yr adolygiad, sydd wedi’i gomisiynu gan y Llywodraeth, yn cael ei arwain gan Frances Cairncross, gyda phanel o gyn-olygyddion a golygyddion presennol yn ei chynorthwyo.

Nod yr adolygiad, sy’n cael ei alw’n Adolygiad Cairncross, yw ystyried pa gamau sydd angen eu cymryd er mwyn “diogelu dyfodol ein gwasg rydd ac annibynnol,” meddai Ysgrifennydd Diwylliant mewn confensiwn i’r cyfryngau yn Rhydychen.

Mae’r panel yn cynnwys 11 arbenigwr yn y maes, gan gynnwys Polly Curtis, golygydd Huffpost UK; Peter Wright, cyn-olygydd Mail on Sunday; Ashley Highfield, prif weithredwr Johnston Press, ynghyd â Geraldin Allinson, cadeirydd Kent Medi Group.

“Nifer o heriau”

Bydd yr adolygiad ei hun yn canolbwyntio ar adolygu hinsawdd bresennol y farchnad ar gyfer papurau newydd, ynghyd ag ystyried sut fydd pethau yn y dyfodol.

Wrth siarad yn y confensiwn, dywedodd Matt Hancock fod “nifer o heriau” yn wynebu papurau newydd heddiw, megis dirywiad mewn cylchrediad, cwymp mewn elw sy’n deillio o hysbysebion, ar newid ym mhatrwm darllen y cyhoedd.

Wrth ddweud hyn, nododd fod cylchrediad papurau newydd yn y Deyrnas Unedig wedi haneru ers 2001. Ond roedd yn ddigon parod i ganmol rhai fel The Financial Times, Spectator a’r Economist am “ailwampio” eu hunain dros y blynyddoedd.

Er hyn, ychwanegodd fod angen “gweithredu nawr” er mwyn sicrhau bod y llwyddiannau hyn yn digwydd ar draws y diwydiant, a bod gan y wasg y “strwythurau iawn” yn y farchnad i wneud hynny.

Fe alwodd hefyd am fwy o “gydraddoldeb” yn y wasg,  a hynny’n gydraddoldeb o ran rhyw, hil, anabledd a chefndir cymdeithasol.

Mae disgwyl i adroddiad gael ei gyhoeddi o fewn y flwyddyn nesaf.