Mae’n “amlwg” mai deunydd o Rwsia cafodd ei ddefnyddio mewn ymosodiad yn Salisbury (Caersallog) ddechrau’r mis, yn ôl Ysgrifennydd Gwladol America.

Gan gyfeirio at yr achos lle cafodd cyn-ysbïwr a’i ferch eu gwenwyno, mae Rex Tillerson wedi rhybuddio bod yr Unol Daleithiau yn “sicr” o ymateb.

Mae Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, Theresa May, eisoes wedi datgan ei bod yn “debygol iawn” mai Rwsia sydd yn gyfrifol am wenwyno Sergei Skripal a’i ferch, Yulia.  

Wrth siarad ag Aelodau Seneddol prynhawn ddoe, dywedodd mai deunydd o Rwsia cafodd ei ddefnyddio, a bod gan Moscow tan ganol nos i gynnig esboniad.

Bydd yr Ysgrifennydd Cartref, Amber Rudd, yn cadeirio cyfarfod brys bore ddydd Mawrth (Mawrth 13) er mwyn trafod y mater.

Ymateb Rwsia

Mae’r Kremlin yn gwadu’r honiadau yn eu herbyn, ac mae llefarydd ar ran Gweinyddiaeth Dramor y wlad wedi galw’r achos yn “sioe syrcas yn y senedd Brydeinig” a’n “ymgyrch wybodaeth wleidyddol”.

Cyn-ysbïwr i Rwsia yw Sergei Skripal, 66, wnaeth troi yn erbyn y wlad a chael ei garcharu, cyn cael ei anfon i’r Gorllewin trwy ddêl.

Mae ef a’i ferch 33 oed, yn parhau yn yr ysbyty mewn cyflwr difrifol.