Mae’r Prif Weinidog, Theresa May, wedi dweud ei bod yn “debygol iawn” mai Rwsia oedd yn gyfrifol am yr ymosodiad yn Salisbury (Caersallog), lle cafodd cyn-ysbïwr o’r wlad a’i ferch eu gwenwyno.

Yn dilyn cyfarfod o’r Cyngor Diogelwch Cenedlaethol (NSC) heddiw, fe wnaeth Theresa May gadarnhau i’r Senedd yn San Steffan mai math o nwy nerfol sy’n cael ei ddatblygu gan fyddin Rwsia, o’r enw novichok, a gafodd ei ddefnyddio i wenwyno Sergei Skirpal, a’i ferch, Yulia, ar Fawrth 4.

Mae felly wedi galw ar y Kremlin i esbonio pa un a oedd yr ymosodiad yn “weithred uniongyrchol gan wladwriaeth Rwsia”, neu’n ganlyniad i Rwsia’n “colli rheolaeth” ar ei storfa o nwy nerfol.

Mae llysgennad Rwsia yn Llundain wedi cael ei orchymyn i’r Swyddfa Dramor i drafod y mater hwn, ac mae’r Ysgrifennydd Tramor wedi gofyn i’r Kremlin am ymateb erbyn diwedd yfory (Mawrth 13).

Ac os na fydd y Llywodraeth yn cael ymateb “dilys”, fe fydd Theresa May yn diweddaru’r Senedd ddydd Mercher ar ba gamau y bydd hi’n eu cymryd.

“Dau esboniad rhesymol”

“Does dim ond dau esboniad rhesymol am beth ddigwyddodd yng Nghaersallog ar Fawrth 4,” meddai’r Prif Weinidog.

“Naill ai bod hyn yn weithred uniongyrchol gan wladwriaeth Rwsia yn erbyn [y Deyrnas Unedig], neu fod Llywodraeth Rwsia wedi colli rheolaeth ar ei storfa beryglus o nwy nerfol, a’i adael i lithro i ddwylo eraill.”

Mae Sergei Skirpal, 66, a’i ferch, Yulia, 33, yn parhau mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty, ar ôl iddyn nhw gael eu darganfod yn anymwybodol ar fainc yn Salisbury.