Mae llanc 17 oed wedi cael ei garcharu am 10 mlynedd a hanner am gynnal cyfres o ymosodiadau lle’r oedd yn taflu asid at bobol ar feiciau modur.

Roedd Derryck John, o Croydon yn ne Llundain, wedi targedu chwe gyrrwr beic modur mewn ymgais i ddwyn eu cerbydau ar Orffennaf 13 y llynedd.

Fe ymddangosodd y llanc yn Llys y Goron Wood Green drwy gyswllt fideo.

Dywedodd y Barnwr Noel Lucas QC bod Derryck John wedi cyflawni “troseddau dybryd iawn” a bod cynnydd mawr wedi bod mewn troseddau o’r fath yn ystod y 12 mis diwethaf.

Roedd y llanc wedi chwistrellu asid i wynebau’r dioddefwyr – mae un dyn wedi colli 30% o’i olwg mewn un llygad yn sgil yr ymosodiad.

Fe lwyddodd Derryck John i ddwyn dau feic modur ac roedd wedi ceisio cymryd pedwar o rai eraill gan eu perchnogion, cyn iddo gael ei arestio tua 3yb ar Orffennaf 14.

Roedd Derryck John wedi pledio’n euog i’r cyhuddiadau.