Mae ffrae yn datblygu o fewn y Blaid Lafur yn San Steffan, gydag aelod blaenllaw yn honni iddi brofi “diwylliant o fwlio o’r math gwaethaf.”

Daeth sylw Debbie Abrahams wedi i’r blaid gyhoeddi y byddai hi’n “camu i lawr” o’i rôl yn Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau cysgodol, tra’u bod yn ymchwilio i “fater cyflogaeth”.

Mewn datganiad mae’r Aelod Seneddol yn dweud ei bod wedi cael ei symud o’i swydd yn erbyn ei hewyllys, yn gwrthod yr honiadau yn ei herbyn, ac yn awgrymu y gallai gymryd camau cyfreithiol.

Yn ogystal â hynny, mae’n cyhuddo “unigolion penodol” yn swyddfa Arweinydd y blaid, Jeremy Corbyn, o ymddwyn yn “fygythiol ac yn hollol amhroffesiynol”.

“Cwyn swyddogol”                                                                                                          

“Mae diwylliant o fwlio o’r math gwaethaf wedi bod ynghlwm â fy nhriniaeth dros yr wythnos diwethaf,” meddai Debbie Abrahams.

“Ac o ganlyniad i hynny, byddaf yn gwneud cwyn swyddogol gerbron y Blaid Lafur ac awdurdodau seneddol.”

Mae’r Aelod Seneddol hefyd yn honni nad yw’r blaid Lafur wedi datgelu manylion y cwynion iddi hi, ond bellach mae’r blaid wedi cyhoeddi mai Margaret Greenwood fydd yn cymryd ei lle dros dro.