Mae teyrngedau yn cael eu rhoi i’r diddanwr a’r canwr, Ken Dodd, sydd wedi marw yn 90 oed – ddeuddydd ar ôl iddo briodi.

Roedd yn enwog am ei sioeau stand-yp hir iawn, gyda’i ‘tickling stick’ a’i ‘Diddy Men’.

Bu farw ddydd Sul yn y cartref lle cafodd ei eni yn Knotty Ash ger Lerpwl. Roedd ei wraig gydag ef pan fu farw.

Roedd y digrifwr wedi gadael yr ysbyty ar Chwefror 27 ar ôl bod yno am chwech wythnos yn dilyn haint ar yr ysgyfaint.

Fe briododd Anne Jones, ei bartner ers 40 mlynedd, ddydd Gwener, ac roedd disgwyl cyhoeddiad am y briodas yn ddiweddarach yr wythnos hon.

“Athrylith”

Dywedodd ei asiant Robert Holmes wrth y Press Association ei fod yn un o ddiddanwyr mawr olaf ei gyfnod.

“Does neb arall yn debyg iddo,” meddai gan ei ddisgrifio fel “athrylith” ym myd comedi.

Fe roddodf Ken Dodd ei berfformiad olaf yn yr Auditorium yn Arena’r Liverpool Echo yn Lerpwl ar Ragfyr 28, ond bu’n rhaid canslo ei sioeau eraill ar gyfer 2018 oherwydd ei salwch.

Roedd ei sioeau teledu yn cynnwys The Ken Dodd Show, Beyond Our Ken a Ken Dodd’s Laughter Show, ac fe berfformiodd yn y London Palladium am 42 wythnos yn 1965.

Yn 1964, cafodd ei sengl gyntaf ‘Happiness’ ei rhyddau, y sengl boblogaidd ‘Tears’ yn 1965, ac yna ‘Promises’.

Cafodd ei urddo’n farchog ym mis Mawrth y llynedd.

Teyrngedau

Ymhlith y rhai sydd wedi talu teyrngedau yw Norah Button, a oedd yn gyfrifol am y dawnswyr a oedd yn perfformio fel y ‘Diddy Men’.

Mae hi wedi disgrifio’r diweddar ddigrifwr fel “ffrind ac athro”.

Wrth siarad y tu allan i gartref Ken Dodd yn Knotty Ash, dywedodd hefyd y bydd Lerpwl gyfan yn ei golli.

“Mi fydda’ i’n ei golli’n fawr,” meddai Norah Button. “Roedd yn ddyn hynod o alluog; roedd o hyd yn rhoi cyngor da i mi.”

Ar y cyfryngau cymdeithasol wedyn, dywedodd y gomediwraig, Dawn French, ar Twitter: “Dyma ddiwrnod gwych i roi ciwcymbr trwy flwch post eich cymydog a gweiddi ‘Mae’r aliens wedi cyrraedd!’”

Ac mae’r diddanwr, David Walliams, wedi dweud bod “comedi yn llifo trwyddo fel dŵr.”

Baneri ar hanner mast

Mae Maer Lerpwl, Joe Anderson, wedi dweud y bydd baneri yn y ddinas ar hanner mast trwy gydol y dydd heddiw er mwyn cofio un o “feibion enwocaf” y ddinas a’r “comedïwr gorau erioed”.

Dywedodd hefyd y bydd yna lyfr o gydymdeimlad ar gael i bobol allu nodi eu teyrngedau.