Mae Llafur wedi addo rhoi hwb o £70bn i economi’r Alban, wrth i ganghellor yr wrthblaid, John McDonnell, rybuddio y byddan nhw’n “dod i rym”.

Dywedodd y byddai’r Alban yn gwario mwy o arian ar yr Alban ar wasanaethau cyhoeddus ac yn buddsoddi mewn isadeiledd. Mae hefyd wedi crybwyll y posibilrwydd o drenau cyflym.

Daeth ei sylwadau wrth iddo annerch cynhadledd Llafur yr Alban yn Dundee.

Dywedodd y gallai’r Alban elwa o £3bn ychwanegol y flwyddyn drwy Fformiwla Barnett, ac y byddai cronfa Trawsnewid Cenedlaethol yr Alban yn golygu gwario £20bn dros gyfnod o ddegawd.

Dywedodd hefyd y gallai Banc Buddsoddi i’r Alban roi £20bn arall i’r economi dros gyfnod o ddegawd, a hynny i helpu busnesau bychain a chanolig.

“Gadewch i ni wneud y symiau,” meddai. “Gyda’i gilydd, gallai ein hymrwymiadau dros ddegawd olygu £70bn ychwanegol i economi’r Alban.”

Lladd ar yr SNP

Wrth amlinellu’r ffigurau, fe wnaeth John McDonnell ladd ar yr SNP am wario “£340 pitw” ar Fanc Fuddsoddi i’r Alban.

“Os ydych chi’n mynd i ddwyn ein syniadau, er mwyn dyn, gwnewch e â rhywfaint o steil.”

Fe fanteisiodd ar y cyfle i feirniadu polisi llymder y Ceidwadwyr yn San Steffan a’r SNP yn yr Alban, gan ddweud bod economi’r Alban yn dioddef o ganlyniad i’r SNP yng Nghaeredin.

“Rydym ni’n dewis sosialaeth, rydyn ni’n gwneud dewis amgen.”

Wrth gyfeirio at arweinydd newydd Llafur yr Alban, Richard Leonard, dywedodd fod y blaid yn “dod i rym, ac fe fyddwn ni’n ei gipio yn yr Alban ac yng ngweddill y Deyrnas Unedig”.

Mae gan Lafur yr Alban saith Aelod Seneddol ers 2017 – i fyny o un cyn hynny.