Fe fydd y Frenhines yn annerch cynulleidfa o 2,000 o gynrychiolwyr 53 o wledydd y Gymanwlad mewn gwasanaeth arbennig yn Abaty Westminster ddydd Llun.

Fe fydd y gwasanaeth yn dathlu Dydd y Gymanwlad, digwyddiad sy’n cael ei ddathlu bob yn ail flwyddyn i hyrwyddo’r cysylltiadau rhwng y gwledydd a arferai fod yn rhan o Ymerodraeth Prydain.

Yn ei neges ar gyfer yr achlysur, dywed y Frenhines:

“Mae gwerth arbennig iawn yn y ddealltwriaeth a gawn trwy gysylltiad y Gymanwlad; mae etifeddiaeth a rannwn yn ein helpu i oresgyn gwahaniaeth fel bod amrywiaeth yn destun dathlu yn hytrach na chreu rhaniadau.”