Mae aelodau o’r cyhoedd yn cael eu hannog i helpu gydag ymdrechion i lanhau traethau gwledydd Prydain o wastraff plastig a sbwriel arall – o gysur eu soffas.

Gofynnir i bobl dagio sbwriel y maen nhw’n ei weld mewn delweddau sy’n cael eu cymryd o draethau o gwmpas y wlad, er mwyn helpu i ddysgu rhaglen gyfrifiadurol i adnabod gwastraff yn awtomatig ac adeiladu darlun ar raddfa fawr o’r broblem.

Wrth iddyn nhw lansio’r alwad am help, datgelodd y Gymdeithas Wyddoniaeth Brydeinig a’r elusen The Plastic Tide yr eitemau sbwriel mwyaf cyffredin sydd i’w canfod mewn arolwg o 30 o draethau gwledydd Prydain, gyda rhaffau plastig a darnau rhwyd bach yn cyrraedd brig y rhestr.

Yn yr ail safle oedd plastig neu ddarnau sbwng, sy’n creu tua 29% o’r sbwriel, gyda 7% yn dod o ddeunyddiau lapio bwyd plastig, 5% o fagiau plastig a 4% o boteli plastig.

Mae rhai o’r eitemau mwy anarferol i olchi ar draethau a ddarganfuwyd gan The Plastic Tide yn cynnwys sedd toiled, a chleddyf Lego 20 oed.