Mae’r cwmni amaethyddol, Countrywide Farmers, wedi mynd i’r wal ac mae bellach yn nwylo’r gweinyddwyr.

Mae’r cwmni, sydd â’i brif bencadlys yn Evesham yn Swydd Gaerwrangon, yn un o’r prif gwmnïau gwerthu nwyddau amaethyddol yn y Deyrnas Unedig, ac yn cyflogi mwy na 700 o bobol mewn 48 o ganolfannau gwerthu.

Fe gafodd ei gyhoeddi ddoe bod y cwmni wedi’i roi yn nwylo’r gweinyddwyr, gyda’i benaethiaid yn dweud ei bod nhw’n”gofidio am y dyfodol ansicr” y mae’r cwmni yn ei wynebu.

Dirywiad Countrywide Farmers

Roedd y cwmni wedi cyhoeddi cynlluniau ar gyfer gwerthu fis Ebrill y llynedd, ond wnaeth y ddêl o werthu i Mole Valley Farmers Ltd syrthio trwodd ym mis Hydref.

Ond yr wythnos ddiwethaf, fe gyhoeddwyd y byddai rhan y cwmni sy’n arbenigo mewn gwerthu tanwydd yn cael ei werthu. Er hyn, wedi i’r bwriad o werthu’r ochr gwerthu nwyddau i Mole Valley fethu unwaith yn rhagor, fe gyhoeddodd yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd (CMA) y byddan nhw’n cynnal ymchwiliad i’r mater.

Nawr, mae rheolwyr Countrywide Farmers wedi dweud eu bod nhw am roi’r cwmni yn nwylo’r gweinyddwyr, gan gredu y bydd yr ymchwiliad yn para am o leiaf chwe mis – cyfnod na all y cwmni ei “fforddio”.

Canolfannau Cymru

Mae gan Countrywide Farmers bedair canolfan yng Nghymru – yng Nghaerfyrddin, Castell-nedd, Caerdydd a’r Fenni.

Ond mae’r cmwni wedi gweld dirywiad yng Nghymru dros y deng mlynedd ddiwethaf, wrth iddyn nhw wynebu cystadleuaeth yn y farchnad oddi wrth y cwmni Cymreig, Wynnstay, sydd bellach â 19 o ganolfannau ledled Cymru.