Fe fydd staff y siopau a’r cwmnïau sy’n rhan o Bartneriaeth John Lewis yn gweld toriad yn eu bonws am y bumed flwyddyn yn olynol, ar ôl i’r adwerthwr gyhoeddi cwymp mewn elw.

Maen nhw wedi rhybuddio hefyd y bydd cyflogau “yn parhau dan bwysau” yn 2018.

Mae’r grŵp wedi torri’r bonws o 6% y llynedd a chymaint â 17% o’r hyn yr oedd yn 2013.

Daw hyn yn dilyn cwymp o 77% yn elw cyn-treth blynyddol y cwmni i £103.9m.