Mae Llywydd Cyngor Ewrop, Donald Tusk, yn Iwerddon heddiw i gwrdd â’r Taoiseach Leo Varadkar.

Mar disgwyl iddyn nhw drafod Brexit, cytundeb drafft tynnu allan o Ewrop, ynghyd â chanllawiau sy’n cael eu hargymell ar gyfer y berthynas rhwng yr Undeb Ewropeaidd a’r Deyrnas Unedig yn y dyfodol.


Bydd y ddau hefyd yn ystyried materion economaidd allweddol yn ystod y trafodaethau yn Adeiladau’r Llywodraeth yn Nulyn.

Daw ymweliad Donald Tusk cyn cyfarfod y Cyngor Ewropeaidd ar Fawrth 22-23, pryd y bydd materion Brexit a’r economi dan y chwydd wydr.