Fe all fitamin D helpu i amddiffyn y corff rhag ambell fath o ganser, yn ôl astudiaeth yn Japan.

Mae ymchwilwyr wedi bod yn astudio data bron i 34,000 o ddynion a merched, ac fe ddaethon nhw i’r casgliad bod lefelau uwch o fitamin D yn golygu risg gymharol is (30-50%) o ganser yr iau.

Mae’r fitamin yn helpu i gynnal lefelau calsiwm yn y corff sy’n helpu gydag iechyd esgyrn, dannedd a chyhyrau, meddai’r adroddiad wedyn.

Dadansoddwyd mwy na 33,000 o bobol rhwng 40 a 69 oed yn yr astudiaeth sydd wedi’i chyhoeddi yn y British Medical Journal.

 

Cofnodwyd achosion canser mewn 3,301 o achosion ymhlith y cyfranogwyr, a gafodd eu monitro ar gyfartaledd am 16 mlynedd.