Mae Brexit yn cael ei ddefnyddio fel esgus i anwybyddu “anghenion sylfaenol” Prydain, gan gynnwys y newidiafau sydd angen eu gwneud er mwyn hybu’r economi.

Dyna y mae disgwyl i Adam Marshall, Prif Gyfarwyddwr Siambrau Masnach Prydain (BCC), ei ddweud yn ystod cynhadledd flynyddol y corff yn ddiweddarach heddiw (dydd Iau).

Mewn araith, fe fydd yn galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig fynd i’r afael â heolydd, rheilffyrdd, meysydd awyr a’r system fewnfudo.

“Y pethau llai deniadol”

“Mae busnesau’n gwybod bod llwyddiant yn aml yn dibynnu ar ofalu am anghenion sylfaenol yn gyntaf,” meddai. “Mae’r un peth yn wir am economi’r Deyrnas Unedig.

“Dyma’r cyfle i San Steffan ymuno â ni wrth ganolbwyntio ar y pethau sylfaenol; trwy fynd i’r afael â’r pethau llai deniadol sy’n cael eu hanwybyddu.”

Mae disgwyl i Adam Marshall hefyd feirniadu dadleuon “deniadol ond arwynebol” am wladoli – sylw fydd mwy na thebyg wedi’i dargedu at arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn.