Mae ysbïwr Rwsiaidd a’i ferch yn parhau mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty yn dilyn honiadau iddyn nhw gael eu gwenwyno gan sylwedd anhysbys – digwyddiad sydd wedi arwain at ffrae ddiplomyddol yn Whitehall yn Llundain.

Cafwyd hyd i Sergei Skripal, 66, a’i ferch Yulia, 33, yn anymwybodol yn Salisbury (Caersallog) brynhawn dydd Sul.

Dydi’r digwyddiad ddim yn cael ei drin fel achos o frawychiaeth ar hyn o bryd. Ond fe fydd pwyllgor Cobra Llywodraeth Prydain yn cyfarfod i drafod y sefyllfa heddiw.

Mae Ysgrifennydd Tramor Prydain, Boris Johnson wedi corddi’r dyfroedd drwy gymharu’r digwyddiad â marwolaeth Alexander Litvinenko, a gafodd ei wenwyno yn Llundain yn 2006. Mae wedi addo ymateb yn llym pe bai awgrym o ddrwgweithredu.

Mae Boris Johnson hefyd wedi cyhuddo Rwsia o fod yn “rym sy’n achosi anhrefn”. Ond mae Rwsia wedi beirniadu’r sylwadau, gan wadu eu rhan yn y digwyddiad. Mae ymchwiliad ar y gweill.

Cafwyd Sergei Skripal yn euog yn 2006 o roi cyfrinachau’r wladwriaeth i MI6, cyn derbyn lloches yng ngwledydd Prydain. Cafodd ei ddedfrydu i 13 o flynyddoedd o garchar, ond roedd e’n un o ddau a gafodd eu hanfon i wledydd Prydain yn 2010 fel rhan o gytundeb diplomyddol.