Mae cyn-ysbïwr o Rwsia mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty ar ôl iddo ddod i gysylltiad â sylwedd amheus.
Fe gafodd Sergei Skripal, 66 oed, ynghyd â dynes yn ei 30au, eu darganfod yn anymwybodol ar fainc ger canolfan siopa yn Salisbury (Caersallog), nos Sul (Mawrth 4).
Yn y cyfamser, mae’r heddlu wedi cau bwyty pitsa Zizzi yn y dref, wrth iddyn nhw barhau i ymchwilio i’r mater a cheisio adnabod y sylwedd yr oedd y cyn-asiant dwbw o Rwsia wedi dd ar ei draws.
Asiant dwbwl o Rwsia
Fe gafodd Sergei Skripal ei ddedfrydu yn 2006 am drosglwyddo cyfrinachau Rwsia i MI6, a hynny cyn iddo dderbyn lloches yn y Deyrnas Unedig fel rhan o gynllun cyfnewid ysbïwyr.
Roedd y cyn-swyddog ym myddin Rwsia, a gafodd ei ddedfrydu i 13 mlynedd yn y carchar, ymhlith pedwar troseddwr a dderbyniodd bardwn, ac yn un o ddau a gafodd eu hanfon i wledydd Prydain yn 2010 yn rhan o gynllun cyfnewid ysbïwyr mwyaf ers y Rhyfel Oer.
Dyw heddlu Wiltshire ddim yn “sicr” eto os oedd y pâr, sy’n parhau mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty, yn rhan o weithred droseddol.