Mae 80 achos diweddar a hanesyddol o niwed – a risg o niwed – wedi eu hadrodd i’r Comisiwn Elusennau, yn ôl yr Ysgrifennydd Datblygiad Rhyngwladol.

Ers Chwefror 12, mae 26 elusen a sefydliad wedi cysylltu â’r comisiwn, ond nid yw’n glir pa elusennau. Mae natur yr achosion hefyd yn aneglur.

Daw’r newyddion yn sgil sgandal Oxfam, ac yn ôl yr Ysgrifennydd Datblygiad Rhyngwladol, Penny Mordaunt, mae’n “hen bryd” i elusennau fynd ati i ddelio a materion o’r fath.

“Does dim unrhyw le i guddio,” meddai wrth weithwyr sy’n ecsbloetio o fewn y sector. “Wnawn ni ddod o hyd i chi, a byddwch yn ymddangos gerbron llys.”

Elusennau

Gwnaeth Penny Mordaunt gysylltu â 179 elusen a sefydliad pan ddaeth i’r amlwg bod yna bryderon am ymddygiad gweithwyr yn y sector.

Mae’n debyg bod pob un wedi datgan bod eu prosesau mewnol yn ddigonol, ond mae’r Llywodraeth yn disgwyl derbyn rhagor o eglurder gan 37 o’r rhain.

Bellach, mae sefydliadau cymorth yn wynebu casgliad newydd o ofynion sy’n rhaid eu cyflawni er mwyn medru derbyn arian gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.

Bydd yr Adran dros Ddatblygu Rhyngwladol yn cyhoeddi casgliadau archwiliad mewnol ddydd Llun.