Mewn ychydig o fisoedd, mi fydd cwmnïau ynni yn cael eu gwahardd rhag codi taliadau annisgwyl ar gwsmeriaid nwy a thrydan.
Ar hyn o bryd mae cwmnïau ynni yn medru codi tâl am ddefnydd o’u gwasanaethau dros flwyddyn yn ôl, a nod y gwaharddiad yw rhwystro hyn.
Mae’n debyg bod cwsmeriaid yn aml yn derbyn y biliau yma oherwydd methiannau gweinyddol ac amcangyfrifon gwallus gan y cwmnïau.
Yn ôl sefydliad Cyngor ar Bopeth, ar gyfartaledd, gwnaeth aelodau’r cyhoedd dalu gwerth £1,160 o filiau annisgwyl y llynedd – £10,000 oedd y swm mewn rhai achosion eithafol.
“Ar eu colled”
“Mae dosbarthu biliau cywir yn rhan allweddol o wasanaethu cwsmeriaid,” meddai swyddog o gorff rheoleiddio Ofgem, Rob Salter-Church.
“Ac mae’n annheg bod cwsmeriaid ar eu colled pan maen nhw’n derbyn bil annisgwyl o’u darparwyr. Felly rydym yn cymryd camau i gyflwyno gwaharddiad pan nad yw’r cwsmer ar fai.”
Bydd y rheol yn dod i rym ar ddechrau mis Mai i gwsmeriaid, ac ym mis Tachwedd i fusnesau bychain.