Mae’r actor o Bort Talbot, Michael Sheen wedi dweud y byddai’n barod i dderbyn llai o gyflog er mwyn sicrhau bod dynion a menywod yn derbyn cyflogau cyfartal.

Daeth ei sylwadau yn ystod rali tros hawliau menywod ar drothwy Diwrnod Cenedlaethol y Menywod, wrth iddo egluro ei fod e yno i alw am gymdeithas decach i bawb – rhywbeth sy’n “eithriadol o bwysig” iddo, meddai.

“Dw i’n credu ei bod yn gwbl hanfodol, ym mha ddiwydiant bynnag, ym mha broffesiwn bynnag, fod pobol yn cael eu talu yr un faint am wneud yr un gwaith. Mae’n rhaid cymryd hynny’n ganiataol.

“Dydyn ni ddim yn mynd i newid unrhyw beth oni bai bod hynny’n digwydd…”

Ymhlith yr ymgyrchwyr eraill ger San Steffan ar gyfer yr orymdaith i Sgwâr Trafalgar roedd Helen Pankhurst, gor-wyres Emmeline, un o’r Swffragetiaid amlycaf, a Bianca Jagger.

 

Roedd gwleidyddion o bob un o’r prif bleidiau Prydeing yno ar gyfer y digwyddiad.