Mae Gweinidog Tramor Iwerddon, Simon Coveney wedi dweud ei fod yn disgwyl i’r Undeb Ewropeaidd wrthod ffin feddal rhwng Gogledd Iwerddon a Gweriniaeth Iwerddon.

Mae Prif Weinidog Prydain, Theresa May eisoes wedi ymrwymo i adael yr undeb dollau, ond mae hi’n mynnu bod modd osgoi ffin galed drwy ddatrysiadau technolegol a pheidio â gosod cyfyngiadau newydd ar yr 80% o fasnachu trawsffiniol gan fusnesau bychain.

Ond mae’r Undeb Ewropeaidd yn awyddus i warchod y farchnad sengl, meddai Simon Coveney wrth raglen Andrew Marr y BBC.

“Tra y byddwn ni, wrth gwrs, yn archwilio ac yn edrych ar yr holl atebion Prydeinig, maen nhw’n fan cychwyn, yn eu hanfod, i drafodaethau ac nid yn ddiweddglo.”

Mae Theresa May wedi galw am gydnabod ymrwymiad i wasanaethau ariannol, a rôl dinas Llundain, mewn cytundebau masnach.

Dywedodd na fydd modd i Brydain “dderbyn y rheolau heb gael rhoi barn amdanyn nhw”.

Mae Theresa May wedi dweud ei bod hi’n falch fod Prif Weinidog Iwerddon, Leo Varadkar wedi cytuno i drafod ffin Iwerddon.

Roedd yr Ysgrifennydd Tramor, Boris Johnson wedi cymharu’r ffin â pharthau tagfeydd Camden ac Islington yn Llundain – ond mae Theresa May wedi gwrthod amddiffyn y safbwynt hwnnw.

‘Perthynas’

Wrth gyfeirio at wasanaethau ariannol, ychwanegodd Theresa May: “Yr hyn ry’n ni’n ceisio’i datblygu yw perthynas sy’n golygu y gallan nhw aros yma yn y DU fel rhan o Ddinas Llundain, y byddan nhw’n parhau i ddarparu eu gwasanaethau ar draws yr Undeb Ewropeaidd ond y byddan nhw’n gwybod – o ystyried y symiau o arian dan sylw, o ystyried pwysigrwydd sefydlogrwydd ariannol, o ystyried y risg i’r DU o gael y Ddinas yma – ei bod yn bwysig ein bod yn gwneud hynny ar sail safonau rheoleiddio cydnabyddedig, ond allwn ni jyst ddim derbyn rheolau o rywle arall heb gael dweud ein barn amdanyn nhw.”

Rheolau

Dywedodd y byddai Prydain yn cadw at reolau Ewropeaidd ar feysydd fel cynhyrchu ceir, ond bod modd addasu mewn meysydd fel pysgodfeydd ac amaeth.

Dywedodd y byddai Senedd Prydain yn gallu gwneud penderfyniadau “am y rheolau sy’n cael eu gosod”.