Mae ymchwiliad ar y gweill ar ôl i ddyn 31 oed gael ei saethu’n farw yn Birmingham.

Cafwyd hyd i’r dyn mewn eiddo yn ardal Erdington y ddinas am oddeutu 10 o’r gloch nos Wener. Cafodd driniaeth cyn cael ei drosglwyddo i’r ysbyty.

Bu farw am 6 o’r gloch nos Sadwrn.

Mae dau ddyn – 30 a 17 oed – wedi cael eu harestio ac maen nhw’n cael eu holi yn y ddalfa.

Mae’r heddlu’n apelio am wybodaeth.