Yn eu cynhadledd wanwyn yn Bournemouth heddiw, fe fydd arweinwyr y Blaid Werdd yn galw am ail refferendwm ar Brexit.

Yn ôl yr AS Caroline Lucas, un o ddau gyd-arweinydd y blaid, rhaid i unrhyw bleidlais ar y cytundeb terfynol gynnwys dewis o aros yn yr Undeb Ewropeaidd er mwyn “rhwystro’r llywodraeth rhag ein harwain at drychineb cenedlaethol”.

Mae’n cyhuddo’r llywodraeth o fod ag agwedd ddi-hid tuag at heddwch:

“Peidiwn ag anghofio mai prosiect heddwch oedd yr UE ar y cychwyn, wedi’i wreiddio yn ninistr yr Ail Ryfel Byd, ac wedi codi o’r rwbel gafodd ei adael gan fomiau a byddinoedd.

“Mae achos heddwch yn y fantol eto heddiw.

“Mae’r ffordd y mae’r Llywodraeth yn chware gwleidyddiaeth gyda heddwch yng Ngogledd Iwerddon yn gwbl anghyfrifol a heb unrhyw gyfiawnhad.

“Mae aberthu Cytundeb Gwener yr Groglith ar allor Brexit eithafol yn weithred ddieflig a rhaid sicrhau na fydd hynny’n digwydd.”