Mae’r heddlu sy’n ymchwilio i achos marwolaeth tri o bobol mewn tân yn Fermanagh, Gogledd Iwerddon, wedi arestio dyn ar amheuaeth o lofruddiaeth.

Fe gafodd y dyn 27 oed ei achub o’r fflamau cyn cael ei gludo i’r ysbyty cyn cael ei ddwyn i’r ddalfa.

Y gred ydi fod y tân wedi’i gynnau’n fwriadol.

Roedd y gwasanaethau brys wedi’u galw i fyngalo yn Derrylin, ger y ffin â Gweriniaeth Iwerddon, toc wedi 7yb ddyd Mawrth (Chwefror 27). Mae’r ty wedi’i ddinistrio’n llwyr.

Fe ddaeth cadarnhad hefyd gan arweinydd plaid y DUP, Arlene Foster, fod y tri a gafodd eu lladd yn aelodau o’r un teulu.