Mae arweinydd y Blaid Lafur, Jeremy Corbyn, wedi pwysleisio’r angen am undeb tollau yn dilyn Brexit, ynghyd â chreu “perthynas newydd a chryf” gyda’r farchnad sengl, mewn araith bwysig yn Coventry heddiw.

Yn ei araith, fe fu Jeremy Corbyn yn amlinellu ei gynlluniau ar gyfer y cyfnod yn dilyn Brexit, gan ddweud y byddai hawliau, safonau a rheoliadau’r farchnad sengl yn cael eu derbyn gan y Blaid Lafur.

“Mae pob gwlad sy’n ddaearyddol yn agos i’r Undeb Ewropeaidd ac sydd ddim yn aelod – boed yn Dwrci, y Swistir neu Norwy – gyda rhyw fath o berthynas glos gyda’r Undeb, gyda rhai’n fwy manteisiol na’i gilydd,” meddai Jeremy Corbyn.

“Mae angen perthynas bwrpasol ei hun ar Brydain. Fe fydd y Blaid Lafur yn cynnal trafodaeth am berthynas newydd a chryf gyda’r Farchnad Sengl a fydd yn cynnwys mynediad di-doll a thir cadarn o dan hawliau, safonau a rheoliadau presennol.”

Her i Theresa May?

Mae’r newid hwn yng ngweledigaeth y Blaid Lafur yn golygu bod yna bosibilrwydd y bydd Theresa May yn wynebu her gan Lafur ac aelodau o’i phlaid ei hun i newid y ffordd mae’r Llywodraeth yn delio â Brexit.

Mae’r Ysgrifennydd Brexit, David Davies, eisoes wedi disgrifio cynlluniau Jeremy Corbyn fel rhai sy’n mynd yn groes i’r addewidion a wnaeth yn yr Etholiad Cyffredinol diwethaf.

Mae disgwyl y bydd cynlluniau arweinydd y Blaid Lafur hefyd yn siomi rhai o aelodau ei blaid ei hun sydd o blaid gadael y Farchnad Sengl.