Mae’r heddlu wedi enwi’r ddynes y cafwyd hyd i’w chorff ar draffordd M20 yn Swydd Gaint nos Fawrth.

Roedd Dominique Worrall yn 32 oed.

Cafwyd hyd iddi ar y draffordd yn ardal Ashford am 6.05 nos Fawrth.

Mae dyn gafodd ei arestio ar amheuaeth o lofruddio yn dilyn apêl wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth.

Mae’r ymchwiliad yn parhau, a’r heddlu’n apelio am ragor o wybodaeth.