Fe ddaeth i’r amlwg fod dros 20 aelod o staff y Groes Goch wedi’u diswyddo neu wedi cael ymddiswyddo yn dilyn honiadau am eu hymddygiad rhywiol.

Mae’r elusen wedi cyfaddef y dylen nhw fod wedi bod yn “fwy gwyliadwrus” wrth geisio atal y fath ymddygiad.

Ers 2015, mae 21 aelod o staff naill ai wedi’u diswyddo am dalu am ryw neu wedi ymddiswyddo yn ystod ymchwiliad mewnol.

Doedd yr elusen ddim wedi adnewyddu cytundebau dau aelod arall o staff yn dilyn honiadau.

Daw’r helynt yn dilyn honiadau tebyg ymhlith staff a gwirfoddolwyr Oxfam.

Dywedodd Cyfarwyddwr Cyffredinol y Groes Goch Ryngwladol, Yves Daccord ei fod yn “drist iawn” wrth gyhoeddi’r ffigurau, a bod yr ymddygiad yn “bradychu’r bobol a’r cymunedau ry’n ni yno i’w gwasanaethu”.