Fe fydd dau yrrwr lori yn mynd gerbron llys heddiw wedi iddyn nhw fod yn rhan o ddamwain ar draffordd yr M1 a laddodd wyth o bobol.

Mae disgwyl i’r Pwyliad, Ryszard Masierak, 32, a’r Prydeiniwr, David Wagstaff, 53, ymddangos gerbron Llys Ynadon Reading, wedi’u cyhuddo o achosi gwrthdrawiad ar Awst 26 y llynedd.

Fe laddwyd y gyrrwr bws mini, Cyriac Joseph, a saith o’i gyd-deithwyr, ar y draffordd ger Milton Keynes, wrth iddyn nhw deithiol o Lundain i gyfeiriad Nottingham.

Fe gafodd pedwar o deithwyr eraill eu hanafu’n ddifrifol.

Mae Ryszard Masierak, sy’n byw yn Evesham, Swydd Gaerwrangon, a David Wagstaff, o Stoke, ill dau’n gwadu wyth cyhuddiad o achosi marwolaeth trwy yrru’n beryglus, a phedwar cyhuddiad arall o achosi anafiadau difrifol trwy yrru’n beryglus.

Mae David Wagstaff eisoes wedi pledio’n euog o wyth cyhuddiad llai difrifol o achosi marwolaeth trwy yrru’n ddiofal, ac o bedwar cyhuddiad o yrru diofal.