Mae Undeb Cenedlaethol y Ffermwyr (NFU) wedi penodi dynes yn llywydd newydd – a hynny am y tro cyntaf yn hanes yr undeb.
Fe gafodd Minette Batters, sy’n ffermwr bîff yn Wiltshire, ei hethol i’r swydd yn ystod cyfarfod cyffredinol y NFU yn y gynhadledd flynyddol yn Birmingham heddiw.
Mae wedi’i phenodi’r llywydd ar gyfer y ddwy flynedd nesaf, gyda Guy Smith yn Ddirprwy Llywydd a Stuart Roberts yn is-lywydd.
“Arwain y diwydiant trwy Brexit”
“Dw i’n hynod falch o gael fy ethol yn Llywydd y NFU,” meddai Minette Batters, “a dw i’n ddiolchgar i’n haelodau sydd wedi rhoi’r cyfle i mi arwain ein diwydiant trwy Brexit a thu hwnt.”
“Mae’r aelodau wrth galon y NFU ac fe hoffwn i fod y sefydliad ag amcanion uchel ar eu rhan.
“Mae ffermio ym Mhrydain yn cael mwy o sylw nawr nag erioed, ac mae hyn yn gyfle da i ailosod y sector yn llygaid y genedl,” meddai wedyn.
“Fel tîm newydd, fe fyddwn i’n rhoi traed yn ir, ac rydym ni’n barod i rannu ein gweledigaeth ar gyfer ffermio yn fuan.”
John Davies o Ferthyr Cynog, ger Aberhonddu, yw Llywydd NFU Cymru.