Mae chwe milltir o draffig hyd at gyffordd 11 traffordd M20 yn Swydd Gaint ar ôl i gorff gael ei ddarganfod ar y ffordd yn ardal Ashford.

Mae’r oedi’n effeithio ar deithwyr sy’n mynd am yr Eurotunnel a phorthladd Dover, ac mae rhybudd i deithwyr adael dwy awr i baratoi i groesi’r Sianel.

Mae rhybudd i gwsmeriaid fferi P&O ddefnyddio ffyrdd eraill a’r disgwyl yw y bydd y draffordd ynghau tan ddechrau’r prynhawn.

Cafodd yr heddlu eu galw i’r digwyddiad am 6.05yh neithiwr ac mae marwolaeth yr unigolyn heb esboniad ar hyn o bryd.

Mae’r heddlu wedi apelio am wybodaeth.

Mae nifer fawr o deithwyr yn cwyno am y sefyllfa ar Twitter.