Mae nifer o uchel swyddogion Oxfam wedi ymddiheuro am gamymddwyn rhywiol gan rai o’u gweithwyr ac am fethiant yr elusen i ddelio’n iawn â hynny.

Wrth roi tystiolaeth yn Nhŷ’r Cyffredin, maen nhw hefyd wedi datgelu bod 7,000 o roddwyr rheolaidd wedi canslo eu cyfraniadau i’r mudiad.
Ac mae 26 o gwynion pellach am ymddygiad rhywiol anaddas wedi cael eu cyflwyno i’r penaethiaid yn Oxfam gwledydd Prydain.

“Mae’n ddrwg gen i, mae’n ddrwg gynnon ni am y difrod y mae Oxfam wedi’i wneud, i bobol Haiti ac hefyd i’r ymdrechion ehangach tros gymorth a datblygu, trwy danseilio cefnogaeth bosib,” meddai Prif Weithredwr yr elusen yng ngwledydd Prydain, Mark Goldring.

‘Cywilydd’ y pennaeth

Fe ddywedodd pennaeth rhyngwladol Oxfam, Winnie Byanyima, ei bod hi’n teimlo cywilydd am yr hyn oedd wedi digwydd.

“Dw i wedi treulio fy mywyd yn sefyll tros hawliau menywod ac i ymladd tros bobol sy’n byw mewn tlodi,” meddai. “Mae hyn yn boenus i fi.
“Fe ddaeth rhai dynion aflan i mewn i’n mudiad a chamddefnyddio ymddiriedaeth pobol gwledydd Prydain, y cefnogwyr.

“Ond fe gawson nhw ddianc, i gael argymhelliad i fynd. Roedd hyn yn anghywir.”

• Fe ddatgelodd Pirf Weithredwr elusen Achub y Plant, Kevin Watkins, fod adroddiad gan ei fudiad ef yn 2002 wedi tynnu sylw at y peryg o rai dynion yn ceisio manteisio ar y maes cymorth a datblygu.