Mae heddlu yn Rotherham yn dweud bod nifer y bobol ifanc a gafodd eu hecsploetio’n rhywiol yno hyd yn oed yn uwch na’r 1,400 sydd wedi eu datgelu hyd yn hyn.

Mae’r Asiantaeth Trosedd Genedlaethol yn dweud eu bod yn ystyried bod mwy na 1,500 o ddioddefwyr i gyd – bedair blynedd ar ôl adroddiad a greodd bryder mawr a chyfres o ymchwiliadau tebyg.

O’r rheiny, medden nhw, mae 1,300 yn ferched ifanc.

Fe ddywedodd un o’r swyddogion sy’n arwain ymchwiliadau gwerth £7 miliwn eu bod yn gweithio ar 34 o ymchwiliadau penodol a’u bod yn edrych ar 110 o bobol sydd dan amheuaeth.

Yn 2014, roedd adroddiad gan academydd wedi creu helynt mawr trwy awgrymu bod o leiaf 1,400 o blant wedi eu cam-drin yn rhywiol a’u masnachu yn y dref yn Swydd Efrog, a hynny gan gangiau o ddynion a oedd, yn benna’, o dras Pacistanaidd.

Roedd yr adroddiad hwnnw’n ymwneud â digwyddiadau rhwng 1997 a 2003.