Fe fydd penaethiaid yr elusen, Oxfam, yn wynebu panel o Aelodau Seneddol heddiw, er mwyn ateb cwestiynau am yr honiadau diweddaraf bod aelodau o’u staff wedi bod yn camymddwyn yn rhywiol.

Fe fydd Prif Weithredwr yr elusen yn y Deyrnas Unedig, Mark Goldring, ymhlith y rhai o flaen y Pwyllgor Dethol ar Ddatblygu Rhyngwladol, ar ôl honiadau bod staff yr elusen wedi bod yn camymddwyn yn rhywiol wrth weithio yn Haiti yn 2010.

Fe fydd yr ASau yn holi am adroddiad gan Oxfam eu hunain oedd yn dangos bod nifer bychan o aelodau staff yn euog o gamweddau, gan gynnwys defnyddio puteiniaid yn adeiladau’r elusen a chymryd mantais rhywiol ar weithwyr.

Ymchwiliad mewnol

Fe ddaeth cyhoeddiad arall bod y Prif Weithredwr hefyd yn wynebu ymchwiliad mewnol gan Oxfam, am ei ymateb i ailagor ymchwiliadau i’r honiadau yn Haiti.

Roedd yr elusen yn pwysleisio nad oedd gan Mark Goldring ddim rhan yn nigwyddiadau 2010 a bod yr ymchwiliad yn ymwneud â chwyn a wnaed yn 2017.

Fe fydd Cadeirydd ymddiriedolwyr yr elusen, Caroline Thomson, a’r Prif Gyfarwyddwr yn rhyngwladol, Winne Byanyima, hefyd yn wynebu’r pwyllgor dethol.

Mae Oxfam bellach wedi anfon ymddiheuriad swyddogol at Lywodraeth Haiti.