Mae Llywodraeth Prydain wedi pwysleisio eu bod nhw’n “llwyr ymrwymedig” i Gytundeb Gwener y Groglith.

Yn ôl llefarydd ar ran y Prif Weinidog, Theresa May, mae ei llywodraeth hefyd ar hyn o bryd yn cynorthwyo’r pleidiau yn y senedd yn Stormont i ddod i gytundeb er mwyn ffurfio gweinyddiaeth newydd yno.

Daw’r cyhoeddiad hwn ar ôl i gyn-ysgrifennydd Gogledd Iwerddon, Owen Paterson, ail-drydar ar Twitter yn ddiweddar awgrym gan sylwebydd gwleidyddol bod y cytundeb a gafodd ei arwyddo union ugain mlynedd yn ôl, bellach yn “amherthnasol”.

“Siomedig”

Mae’r Llywodraeth “yn llwyr ymrwymedig i Gytundeb Dydd Gwener y Groglith,” meddai’r llefarydd ar ran Theresa May, “ac yn parhau i weithio i sicrhau y bydd y weinyddiaeth ddatganoledig yn gweithio eto.

“Mae’n siomedig nad oes cytundeb wedi’i ffurfio rhwng y pleidiau eto…”

Fe fydd yr ysgrifennydd presennol dros Ogledd Iwerddon, Karen Bradley, yn rhoi diweddariad i San Steffan ynglŷn â’r sefyllfa yn Stormont ddydd Mawrth (Chwefror 20).