Roedd ymchwiliad mewnol Oxfam i’r helynt yn Haiti yn 2011 wedi dod i’r casgliad y dylai elusennau gael eu rhybuddio am ymddygiad aelodau o staff oedd wedi achosi “problem”.

Serch hynny roedd nifer o’r rhai oedd yn gysylltiedig â’r digwyddiad yn Haiti wedi llwyddo i gael swyddi yn y sector dyngarol  wedi hynny.

Roedd Oxfam wedi gwneud yr argymhellion yn yr adroddiad sy’n rhoi manylion am y digwyddiadau yn Haiti lle honnir bod gweithwyr dyngarol wedi defnyddio puteiniaid.

Yn ôl yr adroddiad “ni ellir diystyru” amheuon bod gweithwyr rhyw dan oed wedi cael eu hecsbloetio.

Cafodd gweithwyr dyngarol Oxfam eu hanfon i’r ynys yn y Caribî er mwyn rhoi cymorth yn sgil y daeargryn a laddodd filoedd o bobl yn 2010.

“Ymddiheuro”

Nos Sul, fe wrthododd Oxfam gadarnhau a oedd wedi cysylltu ag unrhyw un o’r merched yr honnir iddyn nhw gael eu cam-drin, yn ystod yr ymchwiliad neu ar ôl hynny.

Ond mae’r elusen wedi dweud y bydd yn cwrdd â llywodraeth Haiti er mwyn ymddiheuro am y “camgymeriadau” a ddigwyddodd yno a gwneud iawn am hynny.

Roedd Oxfam wedi cyhoeddi’r adroddiad ar ôl i gopi gael ei gyhoeddi yn The Times gan arwain at feirniadaeth lem ynglŷn â’r modd roedd yr elusen wedi delio gyda’r digwyddiad.

Dywed yr elusen eu bod yn cyhoeddi’r ddogfen er mwyn bod “mor dryloyw â phosib ynglyn a’r penderfyniadau” wnaeth  yn ystod yr ymchwiliad.