Fe fydd y cyn-hyfforddwr pêl-droed Barry Bennell yn cael ei ddedfrydu heddiw am gannoedd o ymosodiadau rhywiol hanesyddol ar fechgyn ifanc yn ei ofal.

Cafwyd Barry Bennell, 64, yn euog o 50 o droseddau rhyw yn erbyn plant yn Llys y Goron Lerpwl wythnos ddiwethaf. Clywodd y llys bod y pedoffeil wedi ymosod ar 12 o ddioddefwyr rhwng 1979 a 1991.

Yn dilyn y dyfarniad wythnos ddiwethaf, fe ddatgelwyd y gallai cyn-hyfforddwr  Crewe Alexandra a Manchester City fod wedi ymosod ar fwy na 100 o ddioddefwyr i gyd wrth i 86 o achwynwyr fynd at yr heddlu i ddweud bod Barry Bennell hefyd wedi ymosod arnyn nhw.

Mae Barry Bennell eisoes wedi treulio cyfnod yn y carchar ers 1995 am droseddau tebyg yn ymwneud a 16 o ddioddefwyr eraill.

Roedd Barry Bennell wedi bod yn dilyn yr achos drwy gyswllt fideo o’r carchar am resymau iechyd.

Clywodd y llys ei fod wedi denu bechgyn ifanc i’w gartref a hefyd wedi ymosod arnyn nhw yn ystod teithiau i ffwrdd ac yn ei gar wrth deithio i ymarferion hyfforddiant pêl-droed.

Roedd Barry Bennell, sydd bellach wedi newid ei enw i Richard Jones, wedi pledio’n euog i saith cyhuddiad o ymosod yn anweddus yn ymwneud a thri bachgen.

Ond roedd wedi gwadu’r rhan fwyaf o’r honiadau gan ddweud bod yr achwynwyr wedi cael eu hysgogi i fynd at yr heddlu ar ôl i un o’i gyn-ddioddefwyr, Andy Woodward, benderfynu rhoi’r gorau i’w hawl i aros yn ddienw er mwyn rhoi cyfweliadau i’r cyfryngau ym mis Tachwedd 2016.

Fe fydd yn cael ei ddedfrydu yn Llys y Goron Lerpwl am hanner dydd gan y Barnwr Clement Goldstone QC.