Mae Henry Bolton wedi colli arweinyddiaeth UKIP yn dilyn pleidlais o ddiffyg hyder.

Cafodd pleidlais ei chynnal gan aelodau’r blaid mewn cyfarfod brys yn Birmingham. Fe gollodd y bleidlais o 867 i 500.

Fe fydd y blaid nawr yn chwilio am bedwerydd arweinydd o fewn cyfnod o ddeunaw mis.

Cefndir

Fe fu Henry Bolton dan y lach yn ddiweddar yn sgil ei berthynas â Jo Marney, sydd wedi gwneud sylwadau hiliol am ddyweddi Tywysog Harry, Meghan Markle mewn negeseuon gyda’i chyn-bartner.

Roedd e wedi cymharu’r diddordeb yn ei fywyd preifat â’r sylw a gafodd y Dywysoges Diana.

Mae lle i gredu bod y blaid eisoes wedi trafod olynydd i Henry Bolton, a bod tri o enwau wedi’u hystyried. Ond mae’n mynnu y byddai’n ystyried sefyll am yr arweinyddiaeth unwaith eto yn y dyfodol pe bai’r cyfle’n dod.

Ymhlith cefnogwyr Henry Bolton cyn y bleidlais roedd cyn-arweinydd y blaid, Nigel Farage.