Mae diffoddwyr yn ceisio diffodd tân mawr yn Llundain.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i Great Portland Street am 12.45pm.

Mae lle i gredu bod y tân ar safle adeiladu gerllaw un o strydoedd siopa prysura’r ddinas.

Mae mwg i’w weld o filltiroedd i ffwrdd, ac mae lluniau wedi’u rhannu ar wefannau cymdeithasol.

Dydy hi ddim yn glir eto beth oedd wedi achosi’r tân.