Fe fydd Prydain yn tynnu allan o gytundeb polisi tramor mawr cyn gynted â phosib ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd, yn ôl Prif Weinidog Prydain, Theresa May.

Dywedodd hi na fyddai’r llywodraeth yn aros tan ddiwedd cyfnod o drawsnewid cyn cymryd rheolaeth dros ddiplomyddiaeth, heddwch, amddiffyn a chymorth.

Cafodd y polisi ei gyflwyno fel rhan o Gytundeb Maastricht yn 1992.

Mae Theresa May yn mynnu y bydd Prydain yn parhau i gydweithio â’r Undeb Ewropeaidd ar ddiogelwch.

“Does dim rheswm pam na ddylen ni cytuno ar drefniadau penodol ar gyfer ein polisïau tramor ac amddiffyn cydweithredol mewn cyfnod penodol o amser fel y mae’r Comisiwn wedi’i gynnig.

“Ddylen ni ddim aros lle nad oes rhaid i ni aros.”