Fe fydd Prif Weinidog Prydain, Theresa May, yn cwrdd â Changhellor yr Almaen, Angela Merkel, heddiw (dydd Gwener, 16 Ionawr), a hynny yn ystod cyfnod lle mae arweinwyr Ewropeaidd yn dechrau colli amynedd â’r Deyrnas Unedig dros Brexit.

Fe fydd y ddwy yn cyfarfod yn Berlin ar drothwy ymweliad Theresa May â Munich yfory, lle bydd yn rhoi araith am sut fydd diogelwch yn cael ei sicrhau rhwng y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol.

Ond gyda thrafodaethau am y cam nesaf o Brexit wedi cychwyn ers wythnos, mae arweinwyr yr Undeb Ewropeaidd yn mynnu y dylai’r Prif Weinidog nodi beth yw ei hamcanion ar gyfer Brexit.

Ddydd Mercher diwethaf (Ionawr 14), fe ddywedodd llefarydd ar ran Angela Merkel fod angen i Theresa May gyflwyno “cynigion cadarn”, a bod amser yn “prinhau”.

Daw hyn yn sgil adroddiadau o’r Fforwm Economaidd y Byd yn Davos fis diwethaf, fod Canghellor yr Almaen wedi gwneud sbort am y ffordd mae’r Prif Weinidog yn cynnal y trafodaethau, gyda’r Prif Weinidog yn ei hymateb trwy ddweud: “Gwnewch gynnig i mi”.

Fe gafodd rybuddion tebyg eu gwneud gan Brif Drafodwr yr Undeb Ewropeaidd ar Brexit, Michel Barnier, yr wythnos ddiwethaf hefyd, a ddywedodd nad yw’n fodlon “cynnig gytundeb” i’r Deyrnas Unedig eto am y cyfnod o ddwy flynedd a fydd yn rhagflaenu Brexit.

Er hyn, mae Theresa May wedi bod yn oedi rhag cyflwyno’i hamcanion wrth iddi geisio dal ei llywodraeth a’r Blaid Geidwadol ynghyd, gyda’r ddwy’n rhanedig dros y math o Brexit a ddylai ddigwydd.